Y Pwyllgor Cyllid

Finance Committee

 

 

 

 

 

 

 

David Rees AC

Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

 

 

11 Tachwedd 2014

 

Annwyl David

 

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16

 

Diolch am eich llythyr mewn perthynas â'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2015-16, a oedd yn ddefnyddiol iawn yn llywio ystyriaeth y Pwyllgor.  Mae ein hadroddiad, 'Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16', a osodwyd heddiw, yn cyfeirio at lawer o'r pwyntiau a gododd yn eich llythyr. 

 

Fel y gwyddoch, mae iechyd yn un o'r blaenoriaethau a nodwyd gan y Llywodraeth, ac mae cyllid ychwanegol sylweddol yn cael ei ddyrannu i'r sector iechyd o ganlyniad i adroddiad Nuffield.  Mae aelodau'r Pwyllgor Cyllid wedi mynegi pryderon nad oes canllawiau cadarn ar y diwygiadau a ddisgwylir i'r sector iechyd i gyd-fynd â'r cyllid ychwanegol hwn.  Felly, mae'r Pwyllgor wedi dod i'r casgliad a ganlyn:

 

Mae gan y Pwyllgor bryderon am ddiwygio'r sector iechyd

a bydd yn hysbysu'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol am y

pryderon hyn gan argymell y dylai'r pwyllgor hwnnw wneud darn o

waith ar ddiwygiadau iechyd cyn diwedd y Cynulliad hwn. 

 

Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallai eich Pwyllgor ystyried gwneud gwaith ar ddiwygio'r sector iechyd yn sgil dyrannu'r cyllid ychwanegol sylweddol.  Mae rhagor o wybodaeth gefndir am y dystiolaeth a ddaeth i law yn y maes hwn ar gael yn adroddiad y Pwyllgor.

 

Yn gywir

 

Jocelyn Davies AC

Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid